Skip to content
guestlink home page
login

Amdanom ni

Daw Guestlink Cymru atoch drwy dri sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth e-dwristaidd o’r radd flaenaf yng Nghymru.

Y NVG sydd piau, sydd wedi datblygu ac sy’n cefnogi, meddalwedd Guestlink ac mae’n cael ei ddefnyddio gan filoedd o ddarparwyr ac atyniadau bob dydd i reoli eu harchebion a’u digwyddiadau.

Mae gwasanaeth desg gymorth ddwyieithog yn cael ei ddarparu ar gyfer Cymru gyfan gan ddau gwmni twristaidd rhanbarthol, Twristiaeth Gogledd Cymru a Thwristiaeth Canolbarth Cymru sydd â phrofiad blynyddoedd lawer o ddarparu Guestlink i’r fasnach.

I Ddechrau

Ydych chi wedi adolygu’ch manylion a anfonwyd at Visit Britain a Chroeso Cymru? 

Defnyddiwch Chwilio am eich Cofnod isod i chwilio a gweld eich cofnod.

Chwilio am eich Cofnod:

 

I newid eich cofnod, mewngofnodwch ar Guestlink a dilyn y prif ddewislenni i UPDATE > DETAILS

Cafodd eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair eu hanfon atoch ond cofiwch Gysylltu â Ni am unrhyw gymorth.

 

Eich Cofnod

Diweddarwch eich prisiau a’ch manylion yn Guestlink i’w cyhoeddi’n fyd-eang ar wefannau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd eich cofnod yn cael ei gyhoeddi ar Croeso Cymru unwaith y bydd wedi’i anfon drwy Lwyfan Agored National Tourism sy’n cael ei redeg gan Visit Britain.

I newid eich cofnod, mewngofnodwch ar Guestlink a dilyn y prif ddewislenni i UPDATE > DETAILS

Cafodd eich manylion mewngofnodi a’ch cyfrinair eu hanfon atoch ond cofiwch Gysylltu â Ni am unrhyw gymorth.

 

Cysylltu â Ni

Am help a gwybodaeth ar sut i gael y gorau o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni drwy un o'r canlynol:

  1. Manylion Desg Gymorth::
  2. Wedi anghofio manylion mewngofnodi neu gyfrinair?– Cysylltwch â’r Ddesg Gymorth helpdesk@guestlinkcymru.co.uk

    • Mae’r Ddesg gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener   9am – 5pm.
    • 363 diwrnod y flwyddyn (ar gau 25 a 26 Rhagfyr).
  3. Ffurflen Ymholi

Taflenni Newyddion

Bydd copïau o holl e-daflenni newyddion a anfonir i’r fasnach yn cael eu cadw yma, cronfa ddefnyddiol o awgrymiadau.

Tudalen Partneriaid

Guestlink Cymru sy’n anfon data Cymru i’r Llwyfan Agored National Tourism – y system ddosbarthu genedlaethol ar gyfer marchnata busnesau twristaidd gwledydd Prydain. Mae’n darparu gwybodaeth ynghylch cynnyrch twristaidd i nifer o wefannau gan gynnwys www.visitbritain.com gyda dolenni i 45 o wefanannau defnyddwyr rhyngwladol a www.visitwales.co.uk..

Mae Guestlink Cymru hefyd yn bwydo gwybodaeth yn uniongyrchol i nifer o wefannau rhanbarthol a chenedlaethol.

  • Visit Britain
  • Visit Wales
  • Go North Wales
  • Visit Mid Wales
  • Visit South Wales
  • Wales events online
  • Roomcheck